Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 7 Mai 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:15 |
|
|||
|
|
||||
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Gillian Body, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru Matthew Mortlock, Performance Specialist. WAO |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Ystyried gohebiaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gymhorthdal Llywodraeth Cymru i'r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd
1.1 Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gymhorthdal Llywodraeth Cymru i’r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.
1.2 Nododd y Pwyllgor fod Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnal astudiaeth gwerth am arian ar gaffael Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd gan Lywodraeth Cymru.
1.3 Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i baratoi nodyn briffio ar gymhorthdal Llywodraeth Cymru i’r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.
1.4 Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu nodyn yn amlinellu cwmpas ei ymchwiliadau i gaffael Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd gan Lywodraeth Cymru ac i’r cymhorthdal y mae’n ei roi i’r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.
2. Ystyried y cymorth a roddir i'r Pwyllgor
2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adolygiad o’r cymorth a roddir i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
3. Ystyried y potensial i geisio'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu argymhellion a wnaed yn adroddiadau blaenorol y Pwyllgor
3. 1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Llywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn ysgrifenedig ac i ddod gerbron y Pwyllgor, er mwyn i’r Pwyllgor wneud gwaith craffu ar y mater o weithredu’r argymhellion a wnaed mewn adroddiadau Pwyllgor ar:
· Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai
· Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus
· Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion
4. Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr haf 2013
4.1 Nododd y Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer gweddill tymor y gwanwyn/yr haf 2013.
5. Rheoli Grantiau yng Nghymru - Ystyried yr adroddiad drafft terfynol
5.1 Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau ar ei adroddiad drafft ar Reoli Grantiau yng Nghymru a chytunodd i ystyried fersiwn wedi ei ddiwygio drwy e-bost.
Trawsgrifiad